Rhif y ddeiseb: P-06-1477:

Teitl y ddeiseb: Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol

Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith sy’n caniatáu i etholwyr gael gwared ar gynghorwyr sy'n gwasanaethu mewn awdurdod lleol, ac eithrio yn ystod etholiad, sy'n digwydd bob pum mlynedd. Mae angen Deddf newydd arnom, sy’n debyg i’r Ddeddf ar adalw Aelodau Seneddol, ond sy’n ymwneud y tro hwn ag adalw cynghorwyr. Mae angen Deddf debyg i Adalw ASau ond y tro hwn Adalw Cynghorwyr.

Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ymdrin â chynghorwyr lleol yn yr un modd ag yr ydym yn ymdrin ag Aelodau Seneddol. Os nad yw cynghorwyr yn cyflawni eu rolau, dylid cael gwared arnynt a rhoi pobl eraill yn eu lle, a fydd yn gwireddu dymuniadau pleidleiswyr.

 

 


1.        Y cefndir

1.1.            Dulliau adalw

Mae prosesau adalw – y modd y gall gwleidydd etholedig gael ei ddiswyddo gan ei etholwyr rhwng etholiadau – yn arfer cymharol brin mewn deddfwrfeydd democrataidd. Senedd y DU oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno system adalw, a hynny drwy Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ar gyfer Aelodau Tŷ'r Cyffredin.

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd wrthi’n casglu tystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol ynghylch a ddylid cyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

1.2.          System San Steffan

Gwnaeth Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ddarparu system adalw ar gyfer Aelodau Tŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf.

Dim ond os bodlonir un o'r tri amod a ganlyn y gellir agor deiseb adalw mewn etholaeth yn erbyn AS:

§    Mae’r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi cael euogfarn o drosedd ac wedi cael ei ddedfrydu i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth am gyfnod o lai na 12 mis (gan gynnwys dedfryd ohiriedig).[1]

§    Yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau, mae Tŷ'r Cyffredin yn gorchymyn atal yr Aelod Seneddol o’r Tŷ am gyfnod penodedig o 10 diwrnod eistedd fan leiaf (neu 14 diwrnod calendr).

§    Mae'r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 10 o Ddeddf Safonau Seneddol 2009 (os yw'n darparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn perthynas â chefnogi hawliad am lwfansau).

Er mwyn i ddeiseb lwyddo, rhaid iddi gael ei llofnodi gan 10% o etholwyr cofrestredig cymwys ar y gofrestr seneddol yn yr etholaeth honno.

Ceir rhagor o wybodaeth am asedau cymunedol yn y papur briffio hwn gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

1.3.          Atebolrwydd Cynghorwyr

Er nad oes mecanwaith i adalw cynghorwyr yng Nghymru, mae nifer o fesurau atebolrwydd eraill eisoes ar waith.

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu ar gyfer cyhoeddi set o egwyddorion i lywodraethu ymddygiad cynghorwyr a Chod Ymddygiad Enghreifftiol.

Mae Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 yn gosod yr egwyddorion hyn:

Anhunanoldeb

Gwrthrychedd wrth wneud Penderfyniadau

Gonestrwydd

Cydraddoldeb a Pharch

Uniondeb a Chywirdeb

Bod yn agored

Dyletswydd i Gynnal y Gyfraith

Atebolrwydd

Stiwardiaeth

Arweinyddiaeth

Mae'r egwyddorion hyn yn gosod y fframwaith moesegol ar gyfer sut y dylai cynghorwyr weithredu yn eu rolau. Mae hefyd yn ofynnol i bob awdurdod lleol gael Cod Ymddygiad i aelodau yn seiliedig ar fodel cenedlaethol. Mae'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol presennol wedi'i nodi yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008.

Gall aelodau'r cyhoedd gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os ydynt yn credu bod cynghorydd wedi torri ei God Ymddygiad. Bydd yr Ombwdsmon yn asesu’r achos ac yn penderfynu a ddylid ymchwilio i’r gŵyn ai peidio. Os yw’n penderfynu bod y cynghorydd wedi gwneud rhywbeth o'i le a bod angen cymryd camau pellach, gall gyfeirio ei hadroddiad i Bwyllgor Safonau yr awdurdod lleol perthnasol neu i Banel Dyfarnu Cymru.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol sy’n penderfynu a yw cynghorwyr (ac aelodau o awdurdodau cyhoeddus eraill) wedi torri eu Cod Ymddygiad. Mae'n cael tystlythyrau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan Bwyllgorau Safonau awdurdodau. Mae'r penderfyniadau a wneir gan y Panel yn cael eu cyhoeddi ar ei wefan.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 sy’n gosod dyletswydd ychwanegol ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol o fewn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Gosodir dyletswyddau newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grwpiau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gydweithredu â Phwyllgor Safonau'r cyngor.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn 2021, comisiynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd adolygiad annibynnol o fframwaith safonau moesegol llywodraeth leol yng Nghymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Richard Penn, ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021. Daeth i’r casgliad mai’r “consensws cyffredinol” yw bod y fframwaith presennol yn 'addas at y diben', yn gweithio'n dda yn ymarferol ac yn cael ei weld gan lawer fel “llawer gwell na'r un a ddefnyddir o fewn llywodraeth leol yn Lloegr ar hyn o bryd”.

Fodd bynnag, argymhellodd nifer o fân addasiadau i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol, gan gynnwys pennu trothwy sy’n ei gwneud yn ofynnol datgan rhoddion neu letygarwch sy’n mynd y tu hwnt iddo, ffurfioli canllawiau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a gorfodi aelodau i roi gwybod am eu hymddygiad troseddol eu hunain. Argymhellodd yr adolygiad hefyd y dylai fod hyfforddiant gorfodol ar y Cod Ymddygiad i bob aelod o brif gynghorau a chynghorau cymuned ac y dylid ehangu pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2023.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd wrthi’n ystyried y mater o adalw Aelodau’r Senedd fel rhan o’i ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn etholiad 2026 i sefydlu system adalw ar gyfer y Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Pe bai Aelod Seneddol presennol yn cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd ac yn cael dedfryd o garchar sy’n hirach na blwyddyn ac yn cael ei gadw’n gaeth, byddai eisoes yn colli ei sedd yn awtomatig, felly ni fyddai adalw yn berthnasol.